Dyma fand sydd yn rhoi gwedd newydd I'r hen glasuron ac yn chwarae gwaith gwreiddiol. Rocabili gorllewin Cymru.
Band ska bywiog o Gaerfyrddin.
FELIX SUBWAY
Deuawd o dde Cymru sy'n chwarae cyfuniad o gerddoriaeth gwerin a jazz ar mandolin, clarinet a offerynnau trydan.
Bydd Helen a George yn cymryd hoi o redeg gweithdai a'r stiwdio recordio ac yn perfformio yn y Castell. Mae'r ddau yn chwarae alawon traddodiadol a gwreiddiol, cerddoriaeth klezmer, Cajun, a Gwyddelig ar y ffidl a'r accordion.
GAWAZI ac IMRAN KHAN
Rhowch groeso cynnes I un o hen ffefrynnau y Cenhedloedd Bychain, Imran Khan. Yn ymuno gyda fe eleni mae'r band newydd o Gaerdydd sy'n perfformio caneuon Affro-Cwban, hip-hop a reggae.
GUINEVERE
Ymunodd lot ohonnoch yn ngweithdy bol-ddawnsio Guinevere llynedd, felly bwrwch iddi eleni eto. Bydd hi hefyd yn perfformio gyda Sendelica a Not the Only Clown in the Village.
Daw Padrig Lahlor o'r Ynys Werdd, a bydd Gill O'Shea yn ymuno gyda fe ar y chwiban. Chi'n siwr o glywed yr hen ffefrynnau Gwyddelig gan y canwr poblogaidd hwn.
Efallai eich bod wedi dal y criw yma yn bysgio yn Llanymddyfri, os ichi wedi bod yn lwcus. Ta waeth dyma gyfle i'w gwerthfawrogi ar y llwyfan.
Mae Will Cobbett wedi ffarwelio a Bad Riff Gulch, wedi ymuno a chriw o ddihirod ac yn gwneud ei ffordd I dref y Porthmyn gyda'I gitar yn ei law. Cawsoch eich rhybuddio!
Nik Turner + Johnny Action Finger = Psychedelafolkspacepunkdubaglammajazzabilly.
Cymysgedd o'r blws, canu gwlad ar y banjo, bas, drymiau a ffidl, gewch chi gyda'r bois 'ma o Abertawe.
Mae Sendelica newydd recordio gyda label RAIG o Rwsia ac wedi teithio'r UDA yn ddiweddar. Gwyliwch allan am ei albwm newydd
THE BEEKEEPERS DAUGHTER
Anthony Lewis o Gil-y-cwm yw'r ferch hynod hon! Bu'n canu gyda'r band Satori, nawr mae'n difynnu Sylvia Plath, beth nesa'?
THIEVING BEGGARS
Band ska saith aelod a dylanwadwyd gan Madness, digon o swn, digon o sbri a digon o ddawnsio...
TOTEM
Pasiant lliwgar gan blant ysgol Cil-y-cwm a Chynghordy am anifeiliaid hud a lledrith sydd yn meddu ar bwerau grymus. Yn eu cynorthwyo bydd Guy Barrington, sy'n arbenigo mewn dawns shamanig, Corwen ap Broch, arbenigwr ar gerddoriaeth hynafol, y gyfansoddwraig Helen Adam a'r artist Guy Norman.
URBAN LEGEND
8 hip hopiwr o Gaerdydd sy'n cyflwyno ei miwisg menw ffordd cyffrous a ffresh.
Yucatan oedd un o uchafbwyntiau Sadwrn yr Wyl llynedd, cawsom set anhygoel ganddynt. Recordiodd y band ei record cyntaf yn stiwdio Sigur Rós yng Ngwlad yr Ia, ac maent yn mynd o nerth I nerth ac yn un o fandiau mwyaf proffesiynol a gwreiddiol y sin Gymreig. Bydd ganddynt gefnogaeth pres a llinynnau eleni, felly byddwch yn barod am rwbeth sbesial.