06/06/2009
CENHEDLOEDD BYCHAIN AM BYTH, Dydd Sadwrn, 18ed Gorffennaf
Bydd y cyfan yn digwydd o gwmpas Gwesty'r Castell, Llanymddyfri. Bydd amrywiaeth o stondinau, gweithdai, ac adloniant yn cael eu trefnu ar eich cyfer o hanner dydd tan ddau y bore.
Os ych chi am dreulio'r noson dan gynfas, mae Clwb Rygbi Llanymddyfri yn cynnig maes gwersylla. Mae' na drydan a ystafelloedd ymolchi, ewch at wefan y Clwb: www.llandoveryrfc.co.uk .
RAFFL
Arian! Arian! Rhowch imi!
Mae angen i ni godi arian ar gyfer Cenhedloedd Bychain 2010 felly, dyma fargen...
Rydym yn bwriadu rafflo 3 phâr o docynnau VIP ar gyfer yr wyl yn 2010. Gallwch chi ennill penwythnos o adloniant gwerth £120 am £1! Rhown ni wybod ichi pan ddawr tocynnau ar werth!
A MWY
Byddwn yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn dan faner y Cenhedloedd Bychain, felly cadwch yn effro a chadwch eich llygaid ar y safle we am fanylion llawn.