CENHEDLOEDD BYCHAIN AM BYTH, Dydd Sadwrn, 18ed Gorffennaf
Ruby Samba, Urban Legends, Yucatán, Thieving Beggars - ac rwy'n siŵr bod gennych chi eich ffefrynnau hefyd!
Unwaith eto, llwyddodd rysáit y Cenhedloedd Bychain o gerddoriaeth wych, gyda chefnogaeth pobl arbennig, i gynhyrchu digwyddiad bach arbennig iawn.
I'r rheiny ohonoch chi a ddaeth - diolch am gadw'r ffydd. Fe helpoch chi i greu digwyddiad arbennig a gwneud eich rhan i gadw'r Ŵyl yn fyw.
I'r rheiny ohonoch chi oedd yn methu dod - fe golloch chi amser arbennig! Ond peidiwch â phoeni, rym ni'n dal yma, ac yn ysu am fynd ati eto yn 2010.
Ac mae 'na rywbeth y gallwch chi ei wneud nawr i sicrhau taw Gŵyl y Cenhedloedd Bychain nesaf fydd yr orau erioed.
Mae'n syml... ymunwch â'n rhestr tanysgrifwyr . Ac anfonwch y rhestr at bum ffrind fyddai'n mwynhau'r Ŵyl a gofyn iddyn nhw danysgrifio hefyd.
Dewch 'mlaen!
Byddwch yn hael!
Cyflwynwch eich ffrindiau i'r ŵyl fach orau yng Nghymru.
Rym ni'n addo peidio â tharfu arnoch chi na nhw gyda thunelli o bost, a fyddwn ni ddim yn trosglwyddo'ch manylion i neb arall.
Ond byddwn ni yn rhoi'r newyddion diweddaraf i chi am Genhedloedd Bychain 2010.
Yn y cyfamser, mwynhewch yr haf - gobeithio bydd eich holl Sadyrnau cystal â dydd Sadwrn 18 Gorffennaf.
A welwn ni chi'r flwyddyn nesaf yng Nglangwenlais!
RAFFL
A'r bobl ffodus sydd wedi ennill tocynnau i Ŵyl y Cenhedloedd Bychain y flwyddyn nesaf...
Tamsin, Howell a Dale (wnaeth o leiaf un ohonoch chi ysgrifennu eich rhif ffôn symudol â rhif ar goll felly os nad ydych chi wedi clywed oddi wrthon ni, a wnewch chi gysylltu â ni, os gwelwch yn dda?)
Llongyfarchiadau i'r tri ohonoch chi!
DIOLCH YN FAWR
Annwyl Bawb
Ar ôl penwythnos arbennig, rhaid diolch yn fawr.
I'r stiwardiaid, am greu'r naws a chreu cerddoriaeth, a chadw'r holl beth i symud yn hwylus a diogel. Ac i Owen, a wnaeth iddo deimlo fel helpu mewn parti teuluol enfawr.
I'r bandiau, nid yn unig am gefnogi'r Ŵyl trwy ddod i chwarae am ddim, ond am roi cerddoriaeth mor arbennig i ni. Dewiniaeth cartref!
I Jumboco a Tîm a Fiona a phawb arall a berfformiodd yn Sgwâr y Farchnad ac i Tim eto, a Helen a phawb arall a ychwanegodd weithdai at y danteithion oedd ar gael. Fe wnaethoch chi i'r peth deimlo'n hael!
I Helen a Dick a Gaynor a Julia am ddewis y bandiau a'u cael nhw i ddod, ac am gadw enw da'r Cenhedloedd Bychain am gerddoriaeth arbennig yn fyw ac iach.
I Julia a'i thîm am droi ystafell ddawnsio llawn satin yn wledd weledol gyffrous, a Llandyfri'n lle llawnach o asbri nag yw hi fel arfer. Ac yna fynd â'r cyfan i ffwrdd eto fel rhithlun!
I Aled a ddaeth â'r stondinwyr a drodd cefn y Castell a Sgwâr y Farchnad yn lleoedd da i fod a theimlo ysbryd yr Ŵyl. A'r masnachwyr eu hunain - a addasodd yng ngwir ysbryd y Cenhedloedd Bychain - gyda hambyrddau o deisennau a gwerthu llaeth a symud pitsh a ... pob math o ddwli!
I Julie am wneud baneri ac ateb galwadau ffôn a rhedeg y stondin Eliffant Gwyn. A dawnsio ar y cadeiriau.
I Dave ac Andy a John a Jack ac Adam ac Izzie a Fran a Huw a Gaynor am wneud i'r llwyfannau weithio. Heb hynny, fyddai'r Ŵyl ddim yn Ŵyl.
Ac i Steve, a wnaeth ei waeth a chymaint rhagor. Dw i ddim erioed wedi clywed bandiau ddiolch i beiriannydd sain ynghanol set cyn hyn, a digwyddodd hynny ddwywaith!
I Jean am gymryd yr arian! Trwy'r dydd!
I Cath a Steve a ddaliodd ati yn y diwedd, i helpu gyda glanhau.
I Mair a Tegwyn, a ddaeth atom ni y tro hwn a dangos eu cefnogaeth barhaus.
I Westy'r Castell a'r Whitehall, a fentrodd ein cefnogi ni ac a wnaeth popeth o fewn eu gallu i helpu.
I'r heddlu lleol, am ymddiried ynom ni a chadw cyffyrddiad ysgafn dros ben.
I Faer Llandyfri, oedd yn bresennol ar y dechrau ac yn agos iawn at y diwedd, am anfon y neges nad rhyw giwed amheus yw'r Cenhedloedd Bychain, ond criw o bobl arbennig iawn yn cynnal digwyddiad ardderchog.
I bawb ohonom ni, am wneud yr holl bethau eraill roedd angen eu gwneud (sef llawer iawn o bethau) yn y misoedd hyd ddydd Sadwrn er mwyn trefnu'r holl beth.
Diolch i Dick a Thelma, sy'n parhau i fod wrth galon y Cenhedloedd Bychain.
A diolch i bawb a ddaeth.
Gyda'n gilydd, ni sy'n creu'r Cenhedloedd Bychain.
O, a gyda llaw, ar ôl talu'r biliau i gyd, mae £2,000 yn y banc doedd ddim yna ddechrau'r flwyddyn. Ddim yn ffôl o gwbl.
Cenhedloedd Bychain 2010 - 'co ni 'n dod!